Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddiabetes.

Cofnodion cyfarfod cyffredin a gynhaliwyd ddydd Mawrth 22 Medi 2015 yn Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

 

Yn bresennol

Jenny Rathbone AC (Cadeirydd)

Jeff Cuthbert AC

Julie Morgan AC

John Griffiths (Aelod lleyg)

Julia Platts (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol)

Jason Harding (Diabetes UK Cymru)

Dai Williams (Diabetes UK Cymru)

Sara Moran (Diabetes UK Cymru)

Yvonne Johns (Grwpiau Cyfeirio Diabetes Gogledd Cymru)

David Chapman (yn cynrychioli Medtronic)

Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC)

Lesley Jordan (Input)

Matthew Sayer (MSD)

Dr Sarah Davies (Canolfan Feddygol Woodlands, Caerdydd)

Robert Koya-Rawlinson (Novo Nordisk)

Catherine Washbrook (Dieteteg Gymunedol – Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro)

Rob Lee (Cynrychiolwr cleifion)

Amal Luchmun (Sanofi)

Nicola Davis-Job (y Coleg Nyrsio Brenhinol)

Jonathan Hudson (Astrazeneca)

 

           

Ymddiheuriadau

Pip Ford (Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi)

Paul Coker (Eiriolaeth Cleifion Input)

Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)

Penny Griffiths (Grŵp Cymorth i Eraill sydd â Diabetes)

Dr Lindsay George (Arweinydd Clinigol, Diabetes, Ysbyty Llandochau)

Robert Wright (Aelod lleyg)

Rhian Shaw (Sanofi)

Ben Everard (Sanofi)

David Miller-Jones (Cymdeithas Dermatoleg mewn Gofal Sylfaenol – PCDS)

 

 

 

 

 

 

1)    Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi

Cytunwyd fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir ac nid oedd unrhyw faterion yn codi nad oedd ar yr agenda

2)    Gyrru a Diabetes – Cyflwyniad gan Matthew Russell, MSD

Rhoddodd Matthew Russell gyflwyniad ar waith ymchwil ar yrru gyda diabetes, a phryderon cysylltiedig ynghylch gyrru gyda hypoglycemia. Cafodd y gwaith ymchwil, ‘The forgotten risk of drivign with hypoglycaemia in type 2 diabetes’, ei wneud gan y Labordy Ymchwil Trafnidiaethgyda dros 1,500 o bobl drwy gyfweliadau ar-lein 15 munud o hyd

(http://www.trl.co.uk/umbraco/custom/report_files/PPR720.pdf )

Dangosodd y cyflwyniad fod pobl sydd â diabetes sy’n defnyddio inswlin yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o faterion ynghylch gyrru â diabetes. Dangosodd hefyd fod yna 5 o farwolaethau y flwyddyn a 540 o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd oherwydd y bobl sy’n gyrru gyda hypoglycemia.

Cafwyd trafodaeth ynghylch rôl y DVLA a’r goblygiadau i bobl sydd â diabetes sy’n gyrru fel bywoliaeth. Dywedodd Matthew Russell wrth y grŵp fod rhai sefydliadau fel Eddie Stobart, y GMB ac Unsain wedi ymgysylltu â chanfyddiadau’r adroddiad. Disgrifiodd Sarah Davies y broses ar gyfer pryd y byddai’n cysylltu â’r DVLA fel meddyg teulu, a chadarnhaodd Julia Platts fod rheolau’r DVLA yn datgan y bydd trwydded yn cael ei diddymu ar ôl i’r DVLA gael gwybod am ddau bwl hypoglycemig. Ychwanegodd ei bod yn ymwybodol y bydd rhai pobl yn cadw lefel y siwgr yn eu gwaed yn rhy uchel rhag ofn iddynt golli eu trwyddedau.

Dywedodd Dai Williams fod y Grŵp Cynghori ar Wasanaethau Cenedlaethol yn edrych ar ganllawiau Cymru gyfan ar hyn o bryd. Ychwanegodd Yvonne Johns y disgwylir y canllawiau ym mis Tachwedd a’u bod yn trafod gyrru.

Dywedodd Robert Koya-Rawlinson fod canfyddiadau’r adroddiad o ran galwadau ambiwlans yn dangos fod cyfle i edrych ar y ffordd y caiff gwybodaeth ei chasglu a’r ymateb i’r wybodaeth honno. Cytunwyd hefyd fod mater yn codi o ran hyperglycemia na ddylid ei anwybyddu.

Camau gweithredu: Helen i rannu copi o’r cyflwyniad ag aelodau’r grŵp trawsbleidiol drwy e-bost

 

3)    Y wybodaeth ddiweddaraf gan Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan ar Ddiabetes (Julia Platts)

Rhoddodd Julia y wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau y llynedd (ynghlwm) gan gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r grŵp ar gynnydd o ran blaenoriaethau’r grŵp gweithredu a beth yw’r blaenoriaethau newydd.

Cafwyd trafodaeth a chytunwyd y gallai fod yn fuddiol i’r grŵp glywed mwy am y cydweithio sy’n digwydd yn y gwasanaethau cardiofasgwlaidd a strôc.

Cafwyd trafodaeth am y gwaith o roi system TG ar waith. Roedd rhai aelodau’n teimlo bod y gwaith hwn wedi’i wneud yn rhy araf ac nid oedd wedi cyrraedd y nod. Yn yr un modd, bu’r grŵp yn trafod sut y mae rhai byrddau iechyd wedi bod yn araf i gymryd rhan yn y Fframwaith Cyflenwi Diabetes, gan gynnwys cyhoeddi adroddiadau blynyddol.

 

4)    Gwasanaethau pediatrig (Jason Harding)

Rhoddodd Jason wybod i’r grŵp am y gwaith a wnaethpwyd yn ddiweddar ar ffurfio rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc Diabetes Cymru. Mae’r Cadeirydd a’r Cydgysylltydd wedi’u penodi ac maent yn dymuno rhannu arfer gorau ac ymgysylltu â rhieni. Bydd y rhwydwaith yn cael ei lansio yfory.

Mae Justin Warner, Ymgynghorydd Endocrinoleg a Diabetes Pediatrig, yn gweithio ar ganllawiau ar gyfer ysgolion wrth ofalu am ddisgyblion sydd â diabetes. Dywedodd Jason fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol wrth gydnabod bod angen edrych eto ar ganllawiau. Byddwn yn ymgynghori ar y mater hwn yn ystod yr hydref.

Mae Diabetes UK Cymru hefyd yn trefnu trafodaeth ar wasanaethau pediatrig ym mis Tachwedd

 

5)    Blaengynllun Gwaith

Trafodwyd cyfeiriad cyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol. Cytunodd y grŵp y dylid gwahodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gyfarfod i drafod sut y maent yn arolygu gofal ar gyfer cleifion diabetig

Cadarnhaodd Jenny Rathbone mai pwrpas y grŵp yw tynnu sylw at faterion penodol, codi ymwybyddiaeth a cheisio cael dylanwad.

Y cyfarfod nesaf fydd cyfarfod olaf y pedwerydd Cynulliad. Cytunwyd y dylid cynnal trafodaeth banel yn y cyfarfod hwn gyda phob un o’r llefarwyr iechyd o bob plaid, wedi’i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb.

6)    Unrhyw Fater Arall, gan gynnwys dyddiad y cyfarfod nesaf

Eglurodd Jason y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr erlyniadau ynghylch Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a drafodwyd gan y grŵp trawsbleidiol yn y gorffennol. Dywedodd wrth y grŵp fod y ddwy nyrs a gofnododd ble yn ddieuog yn wynebu achos llys am chwe wythnos o 28 Medi ymlaen. Ar ddiwedd yr achos hwn, bydd y tri arall, a blediodd yn euog, yn cael eu dedfrydu.

Dyddiad y cyfarfod nesaf – Cytunwyd ar ddyddiad dros dro o 23 Chwefror 2016 ar gyfer y cyfarfod nesaf (sesiwn holi ac ateb a phanel trafod)